TGAU daearyddiaeth

Matiau

Cynlluniwyd cyfres o 6 mat bwrdd A3 dwy ochr wedi’u lamineiddio i hysbysu myfyrwyr am chwe cham yr ymholiad fel y’u nodir yn y fanyleb arholiadau. Mae’r adnoddau lliwgar yn addysgiadol a deniadol, ac yn rhoi dealltwriaeth sicr i fyfyrwyr o ofynion yr agwedd hon o’r fanyleb.

  • Mae un ochr o’r mat bwrdd yn cynnwys dehongliad manwl ond dealladwy o ofynion y fanyleb.
  • Mae’r ochr arall yn cynnig cyfleoedd i’r myfyrwyr ymgysylltu â’r adnodd drwy gwblhau gweithgareddau amrywiol ac ysgogol, sy’n addas ar gyfer cydweithio a thrafodaeth.

Mae’r lamineiddio yn galluogi myfyrwyr i ysgrifennu ar y matiau bwrdd gyda phennau addas.